HEADER






@brythoniaid

Newyddion

Adref

Newyddion

Hanes

Digwyddiadau

Cysylltwch â Ni

Adref Newyddion Hanes Digwyddiadau Cysylltwch a Ni

English

24/10/16


Roedd dydd Llun, Hydref 18fed yn ddiwrnod arbennig iawn i Gôr y Brythoniaid oherwydd cafwyd cyfle i gymryd rhan yn y dathliadau ym Manceinion i anrhydeddu ac i gydnabod camp holl gystadleuwyr y Deyrnas Gyfunol a gymerodd ran yn y Gemau Olympaidd a’r Gemau para Olympaidd yn Rio yn ddiweddar.


Daeth y gwahoddiad i gymryd rhan oddeutu deg diwrnod yn ôl ac oherwydd y byr rybudd nid oedd modd i John Eifion, arweinydd y Côr, fod yn bresennol. Serch hynny, derbyniwyd y gwahoddiad oherwydd roedd is-arweinydd dawnus y Côr, Mr Huw Alan Roberts, yn fodlon camu i’r bwlch. Doedd y trefniadau ar gyfer y diwrnod ddim yn rhai sicr o gwbl ac roeddynt yn newid o ddydd i ddydd. Fel roeddem yn cychwyn ar ein taith i Fanceinion y bwriad oedd i ganu dwy gân ar y llwyfan awyr-agored o flaen Neuadd y Ddinas ac yna i ganu tair cân yn y neuadd gyda’r hwyr i ddiddanu’r cystadleuwyr a phobl bwysig eraill megis maer y ddinas a Theresa May, y prif weinidog - ond nid felly y bu!


Fel roeddem yn teithio ar hyd yr A55 daeth y newyddion nad oedd modd i’r trefnwyr gwblhau'r gwiriadau diogelwch angenrheidiol o fewn yr amserlen dynn ac o ganlyniad byddai’n rhaid bodloni ar ganu ar y llwyfan awyr-agored. Wedi cyrraedd aethpwyd yn syth i’r llwyfan eang o flaen neuadd urddasol y Ddinas i brofi’r system sain ac i ymarfer. Ond nid felly y bu! Oherwydd nam technegol nid oedd modd i Elizabeth Ellis, cyfeilydd y Côr, ddefnyddio’r allweddellau arferol ond yn ffodus cafwyd benthyg allweddellau grwp enwog y Kaiser Chiefs a oedd yn perfformio ar ôl y Côr!


Fel roedd y Côr yn paratoi i ganu dyma hyrddiad sydyn o wynt yn dymchwel traean y llen enfawr ‘Heroes Parade’ a grogai tu cefn iddynt. Yn ffodus, doedd neb yn sefyll oddi tan y llen pan ddymchwelodd oherwydd gallasai fod wedi achosi niwed sylweddol! Fe achosodd hyn oediad o thua awr cyn i’r Côr gael dychwelyd i’r llwyfan i berfformio dwy gân gyfoes sydd yn gysylltiedig â Manceinion, sef ‘Blue Monday’ gan  New Order a ‘One Day Like This’ gan Elbow. Cafwyd derbyniad gwresog iawn, gyda'r dorf enfawr yn Sgwâr Albert yn ymuno yng nghorws anthemig y gân ddiwethaf. Diwrnod i'w gofio ym mhob ystyr!

Côr y Brythoniaid © 2017        Website designed and maintained by H G Web Designs

17/5/17 - Taith i Iwerddon Pasg 2017


Ben bore dydd Sadwrn, Ebrill 8fed, aeth hanner cant o aelodau Cor y Brythoniaid, ynghyg ag oeddeutu pump ar hugain o gefnogwyr, ar wibdaith i’r Ynys Werdd.


Wedi cyrraedd porthladd Dulyn aethpwyd ymlaen i dref Athy yn Swydd Kildare, taith a gymerodd ychydig dros awr. Yno ar gyrion y dref, cawsom ein croesawu i ganolfan Cuan Mhuire. Mae’r ganolfan hyfryd hon, sy’n un o nifer o ganolfannau cyffelyb ledled Iwerddon, yn cynnig cymorth i bobl sydd yn gaeth i gyffuriau neu alcohol. Fe’i gweinyddir gan sefydliad crefyddol y Ganolfan roedd pibydd mewn gwisg Wyddelig yn ein harwain i’r maes parcio. Mawr oedd gwerthfawrogiad y teithwyr o’r croeso a’r te hyfrd a oedd yn ein disgwyl yn ffreutur y Ganolfan.


Wedi’r te aethpwy allan i amffitheatr awyr agored lle canodd y Cor hanner dwsin o ganeuon i’r gynulleidfa werthfawrogol. Aethpwyd ymlaen oddi yno I ganol y dref lle cafwyd ychydig oriau i ymlacio a chrwydro yn yr heulwen braf. Cyn y cyngerdd fin nos yn Eglwys Sant Michael cafodd yr holl deithwyr swper blasus gan drefnyddion y cyngerdd, sef Clwb Llewod Athy. Roedd yr eglwys yn orlawn ar gyfer y cyngerdd, gyda’r trefnyddion yn gosod nifer helaeth o seddau ychwanegol, ond serch hynny bu’n rhaid I nifer sefyll yng nghefn yr eglwys. Braf oedd cael rhannu’r llwyfan gyda chor plant o’r ysgol leol a Brian Hughes, un o bibyddion pennaf Iweddon.


Wedi’r cyngerdd teithwyd I dref Kilkenny, awr o siwrne, lle treuliwyd dwy noson mewn gwerty hyfryd. Mae Kilkenny yn dref a llawer iawn o hanes yn perthyn iddi a braf oedd cael cyfle ar y dydd Sul a’r bore Llun i grwydro’i strydoedd, ymweld a’i heglwysi niferus, y castell a’i barc, neu gerdded ar hyd glannau’r afon Nore.


Ar y prynhawn Sul cynhaliwyd cyngerdd yn eglwys hardd Sant Ioan. Unwaith eto daeth cynulleidfa luosog i wrando ar y Cor, ynghyd ag unawdydd a thrwmpedwr lleol. Mawr oedd gwerthfawrogiad y gynulleidfa o lais swynol John Eifion fel unawdydd mewn ambell gan. Fel ar y noson flaenorol, ar ddiwedd y cyngerdd cododd y gynulleidfa ar ei thraed fel un i fynnu encore.


Roedd y Cor wedi paratoi un eitem arbennig ar gyfer y daith, sef fersiwn digyfeiliant o Amhran na bhFiann, anthem genedlaethol Iwerddon ac felly daeth y cyngerdd i ben gyda’r ddwy anthem genedlaethol yn eu tro yn atseinio yn ein clustiau.


Gwerthfawrogwyd y croeso bendigedig a gafwyd a’r trefniadau effeithiol a wnaed ar gyfer y Cor gan glybiau Llewod Athy a Kilkenny. Ers y daith arbennig hon yn hir yn y cof.