Côr y Brythoniaid © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Elizabeth Ellis - John Eifion

Elizabeth Ellis Mae Elizabeth yn hanu’n wreiddiol o’r Bontfaen ym Morgannwg ond ers blynyddoedd bellach mae’n byw ac yn gweithio yn Nolgellau, Meirionnydd. Bu’n astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain ac yn arbenigo ar gyfansoddi a hefyd ar chwarae’r piano a’r harpsicord. Tra yn y Coleg Cerdd enillodd Wobr Chapell am ei thalent ar y piano a hefyd ysgoloriaeth i astudio ymhellach gyda Herbert Howells a George Malcolm. Mae wedi teithio Ewrop, Rwsia ar Unol Daleithiau fel unawdydd ac fel cyfeilydd. Yn 1992 fe’i gwnaed yn Gymrawd y Coleg Cerdd Brenhinol. Bu’n gyfeilydd swyddogol i’r Brythoniaid ers 1984.

John Eifion

Bwriodd John Eifion ei brentisiaeth cerddorol yn ystod ei blentyndod pan y bu ef, ei dair chwaer a’i rieni yn canu a chynnal cyngherddau ar draws Gogledd Cymru. Ers y dyddiau cynnar hynnu, mae wedi mwynhau llwyddiant ar sawl achlysur mewn cystadlaethau lleol a chenedlaethol – gan ennill ar y unawd tenor yn y Brifwyl bum gwaith. Cyrhaeddodd uchafbwynt ei yrfa hyd yma ym 1999, pan enillodd wobr goffa David Ellis – y Rhuban Glas i unawdwyr lleisiol ym mhrifwyl Môn. O ganlyniad, mae galw mawr am ei wasanaeth fel unawdydd ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Mae wedi teithio Canada, America, Iwerddon a Barbados. Mae wedi perfformio sawl oratorio gan gynnwys ‘Samsom’ , y ‘ Messiah’, Elijah’ ac hefyd y ‘Croeshoeliad’. Mae’r rhaglen ar gyfer ei gyngherddau yn amrywio o arias operatig a chaneuon allan o sioeau cerdd i unawdau Cymraeg a Cherdd Dant – rhaglen sydd yn eang iawn ei hapel. Wrth ei waith bob dydd, mae’n Swyddog Lles i Awdurdod Addysg Gyngor Gwynedd. Mae’n briod gyda dwy ferch, a chanu yw ei ddiddordeb pennaf. Mae eisioes wedi rhyddhau ei CD gyntaf, ac yn gynharach yn 2001, ymgymerodd a swydd arall, sef arweinydd newydd Côr Meibion y Brythoniaid. Yn ei ail flwyddyn fel arweinydd enillwyd cwpan y brif gystadleuaeth i gorau meibion yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Côr y Brythoniaid © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Elizabeth Ellis -